Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 4 Hydref 2011

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(19)v3

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 mins) 

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

</AI2>

<AI3>

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Y Gyllideb Ddrafft (45 munud)

</AI3>

<AI4>

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Hygyrchedd i gyfreithiau Cymru a datblygu llyfr statud i Gymru (30 munud)

</AI4>

<AI5>

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Rhaglenni Ewropeaidd yn y dyfodol yng Nghymru (30 munud)

</AI5>

<AI6>

6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth (15 munud) 

NDM4808 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ogystal â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642, NNDM4722 ac NNDM4785, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch Rhagdybiaethau Cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol, Sail 16 Atodlen 2 Deddf Tai 1985 ac Asedau ag iddynt Werth Cymunedol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau Ategol

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

I weld copi o’r Bil Lleoliaeth:

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html

</AI6>

<AI7>

7. Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy (60 munud) 

 NDM4813 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar ddatblygu cynaliadwy yn 2010-11, fel y nodir yn Adroddiad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Medi 2011.

Mae copi o'r Adroddiad ar gael yn:

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm?act=dis&id=221974&ds=9/2011

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru byth wedi prif ffrydio datblygu cynaliadwy yn llawn yn y ffordd mae’n gweithio ac yn datblygu polisïau.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu gweledigaeth strategol well o sut caiff datblygu cynaliadwy ei wreiddio ar draws strategaethau, polisïau a chynlluniau unigol a sut maent yn cyfuno i gyfrannu at gynnydd mesuradwy yn erbyn y Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy.

Gellir gweld “Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011” drwy ddilyn y linc canlynol: http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/sustaindev/110830/?skip=1&lang=cy

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno camau cywiro ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2011 sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella.

Gellir gweld “Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011” drwy ddilyn y linc canlynol: http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/sustaindev/110830/?skip=1&lang=cy

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n llawn yr argymhellion a wnaethpwyd yn yr Adroddiad Blynyddol gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy a Cynnal Cymru.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y ddogfen “Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011" yn dangos bod y Llywodraeth wedi symud ymlaen gydag oddeutu hanner ei dangosyddion ond yn gresynu ei bod yn dangos y bu dirywiad clir mewn dangosyddion ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr a newidiadau tymor byr mewn poblogaeth adar.

Gellir gweld “Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011” drwy ddilyn y linc canlynol: http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/sustaindev/110830/?skip=1&lang=cy

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i ddatblygu cynaliadwy gynnwys lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffynonellau domestig, ac yn galw am gynnydd yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Llywodraeth i gomisiynu archwiliad annibynnol o’i pholisïau i hybu datblygu cynaliadwy.

Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan awdurdodau lleol tuag at dargedau ailgylchu.

</AI7>

<AI8>

Cyfnod pleidleisio

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mercher, 5 Hydref 2011

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>